Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

Marc Ansawdd Elusen Ddibynadwy - Cydnabyddiaeth ar ran gallu mudiadau gwirfoddol i reoli a llywodraethu yn effeithiol

 

Yn ddiweddar, derbyniwyd gan Fenter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy y Marc Ansawdd Elusen Ddibynadwy, marc sydd yn cydnabod eu gwaith rhagorol fel mudiad yn y trydydd sector yng Nghymru.  

Mae’n bleser ac yn fraint i ni fel Menter Iaith BGTM dderbyn y wobr hon - Marc Elusen Ddibynadwy. Diolch o galon i'r holl staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr am eu gwaith caled. Dyma farc cenedlaethol sydd yn cydnabod ac yn arddangos bod Menter BGTM yn sefydliad o ansawdd ac yn ddibynadwy. Hyfryd oedd derbyn y newyddion arbennig yma, yn enwedig ar ôl blwyddyn heriol gyda Covid. 

Dyma'r unig fath o asesiad ansawdd yn y DU sydd wedi'i gynllunio i helpu sefydliadau'r trydydd sector i weithredu'n fwy effeithiol ac effeithlon.   

Cafodd Menter Iaith BGTM ei hasesu yn ôl 11 o’r safonau ymarferol a welir mewn Elusen Ddibynadwy. Mae'r safonau hyn yn cynnwys llywodraethu, arwain a rheoli, rheoli staff a gwirfoddolwyr a rheoli arian. Roedd y Fenter yn llwyddiannus gan basio’r holl safonau ansawdd.

Sefydlwyd Menter Iaith BGTM  yn 2007 ac mae’n weithredol o fewn tair sir – Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy. Rydym yn trefnu pob math o ddigwyddiadau i bobl o bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol I gael mwynhau a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys rhieni, teuluoedd, plant a phobl ifanc, oedolion a siaradwyr newydd. 
 
Dyma oedd gan Nick Snow, Rheolwr y Rhaglen Elusennau Dibynadwy, NCVO i'w ddweud:

“Rydyn ni mor hapus dros ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr Menter Iaith BGTM am gyflawni'r Marc Elusen Ddibynadwy. Mae'n glir bod sefydliadau sy'n defnyddio'r safon Elusen Gofrestredig yn elwa trwy lywodraethu’n well, datblygu systemau a gweithdrefnau mwy effeithiol ac amrediad gwell o wasanaethau i'w defnyddwyr ac mae'n wych gweld y gymuned yma o ddefnyddwyr Elusen Ddibynadwy yng Nghymru yn tyfu.” 

Diweddariad Mis Mai

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, rydym nawr yn cynnal amryw o weithgareddau awyr agored ar gyfer plant, teuluoedd ac oedolion er mwyn iddynt ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg. Rydym hefyd yn parhau i gynnig ystod eang o weithgareddau ar-lein am ddim. Mae'r posteri isod yn cynnwys mwy o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei gynnig. 

Mae rhai o'n gweithgareddau hefyd yn digwydd dros ein tudalen Facebook hefyd sef: www.facebook.com/menterbgtm

Os hoffech ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau, e-bostiwch post@menterbgtm.cymru

Sylwadau Defnyddwyr

Dyma ardal sydd yn rhoi cyfle i'n defnyddwyr cael mynegi eu sylwadau am ein digwyddiadau a tharo golwg ar y math o bethau rydym ni'n cynnal. Y tro hyn mae Fi Benson yn sôn am ei phrofiad hi o ddod i Glwb Clonc Brynbuga.

Holiadur Digwyddiadau Ardal Y Fenni

Rydym yn gwneud prosiect ar y cyd gyda Criw'r Efail ar hyn o bryd i weld pa weithgareddau Cymraeg hoffech chi weld ardal y Fenni. Os ydych yn byw yn yr ardal ac/neu yn awyddus i fynd i ddigwyddiadau yn yr ardal. Cwblhewch ein holiadur isod. Diolch 

🎸😀☕🎭⚽

Holiadur Gweithgareddau'r Fenni

Sgwrs dros Skype

Mae ein grwpiau sgwrsio yn parhau ar lein, croeso i bawb sydd eisiau sgwrsio ac ymarfer eu Cymraeg! Ymunwch â'n grŵp Skype trwy e-bostio: post@menterbgtm.cymru. Bydd Marged, Jo neu Sioned  ar lein pob dydd o 10-11yb er mwyn siarad dros Skype.

Amdanom Ni

Cafodd Menter Iaith BGTM ei sefydlu yn 2007 sy’n ei gweud hi’n un o’r Mentrau mwyaf ifanc ymysg y 22 sydd ledled Cymru.

Mae’r Fenter yn gweinyddu y tair sir – Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy.

..mwy

Gweithgareddau

Mae Menter BGTM yn trefnu ystod eang o weithgareddau cymdeithasol i bobl o bob oedran.

Mae croeso i bawb yn ein gweithgareddau - dysgwyr, siaradwyr rhugl ac i'r sawl sy'n gefnogol i'r iaith er eu bod nhw ddim yn ei siarad hi.

Mae mynychu’r digwyddiadau yn ffordd arbennig o wneud ffrindiau newydd ac i ddod i nabod y siaradwyr Cymraeg yn eich cymuned.

..mwy

Ysgolion

Mae’r Fenter yn gweithio’n agos gyda nifer o ysgolion lleol er mwyn creu cyfleoedd diddorol i ddisgyblion defnyddio’r iaith ac i gyfoethogi eu dealltwriaeth/profiad o ddiwylliant Cymraeg.

Mae’r dolenni isod yn esbonio sut mae’r Fenter yn cefnogi defnydd yr iaith yn ysgolion ein hardal.

..mwy

Clybiau Carco

Mae ein Clybiau Carco yn awyddus i weithio gyda rhieni a theuluoedd i ddarparu’r gofal plant a chyfle i chwarae o’r safon gorau mewn amgylchedd braf, llawn gofal lle gall plant ddysgu.

..mwy

Cerddoriaeth

Mae Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn trefnu digwyddiadau cerddorol ar draws yr ardal yn rheolaidd.

Mae'r digwyddiadau yn cynnwys gigs gyda'r nos, perfformwyr yn ein gwyliau/dyddiau hwyl a gweithdai cerddorol yn ysgolion yr ardal.

..mwy

Partneriaid

Mae nifer fawr o fudiadau a grwpiau yn trefnu gweithgareddau ar draws ardal Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy.

Mae rhai yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Fenter a rhai yn gweithredu’n gwbl annibynnol.

..mwy

Calendr

I weld ein holl ddigwyddiadau, edrychwch ar ein calendr digwyddiadau.

..mwy

Newyddion

Gwybodaeth i ddilyn yn fuan....

..mwy

Llywodraethu’r Fenter

Gwybodaeth i ddilyn yn fuan....

..mwy

Ymunwch a'n Cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael gwybodaeth ynglŷn â digwyddiadau Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy!

Cysylltu

Noddir gan Llywodraeth Cymru

Menter Iaith Blaenau Gwent Torfaen a Mynwy. Rhif Sefydliad Elusennol Corfforedig 1181104

Map

© Hawlfraint 2023 - Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy - Gwefan gyda Delwedd