Mae Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn trefnu digwyddiadau cerddorol ar draws yr ardal yn rheolaidd. Mae'r digwyddiadau yn cynnwys gigs gyda'r nos, perfformwyr yn ein gwyliau/dyddiau hwyl a gweithdai cerddorol yn ysgolion yr ardal. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi trefnu sesiynau gyda Mellt, Papur Wal, I Fight Lions, HMS Morris, Bronwen Lewis, Mr Phormula, Jamie Bevan, Danielle Lewis, Rhisiart Arwel a'r Hwntws. Mae pob math o gerddoriaeth yn cael cyfle/llwyfan yn nigwyddiadau'r Fenter felly bydd rhywbeth at ddant pawb.
Neuadd Iago Sant, Heol Hanbury, Pontypŵl, NP4 6JT.
Mae’r Clwb Jamz yn cwrdd yn Neuadd Iago Sant yn wythnosol ac yn agored i bawb dros 16 mlwydd oed. Ar hyn o’r bryd rydym yn cael aelodau rhwng 22-60 yn mynychu sy'n dod o amryw o lefydd, yn cynnwys Hwngari! Mae croeso i unrhyw un i ddod ag offeryn i ymuno i chwarae cerddoriaeth, canu neu fwynhau’r awyrgylch yn unig. Rydym yn chwarae amryw o gerddoriaeth wahanol ac mae pawb yn agored i drio pethau newydd, gwreiddiol a thraddodiadol neu i gael jam.
Gwyl Gelfyddydau'r Fenni
14:00-16:00 Dydd Sul Mehefin 30ain Canolfan y Degwm
The Gentle Good yw enw llwyfan yr aml-dalentog Gareth Bonello sy’n hanu o Gaerdydd. Gareth yw un o brif gerddorion Cymru erbyn hyn – yn perfformio a chyfansoddi yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n enwog am ei feistrolaeth o’r gitâr ac am greu caneuon swynol llawn angerdd a phrydferthwch. Mae ei gerddoriaeth wedi ennyn clod o bob cwr ac fe enillodd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2017 ac Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2014.
Casi a Lewis - Deuawd cerddorol hynod dalentog yw Casi a Lewis a ddaeth i’r amlwg yn gyntaf trwy eu perfformiadau gyda’r grŵp gwerin deinamig Dim Problem. Dyma gyfle prin i’w gweld yn perfformio fel deuawd ac un o’r cyfleoedd olaf i’w gweld yng Nghymru eleni.
The Institute a’r Llyfrgell, Blaina NP13 3BN
Mae gweithdy cerddoriaeth yn rhedeg yn llyfrgell leol Blaina yn fisol (mae’r dyddiad yn newid rhyw faint yn dibynnu ar ddigwyddiadau arall ayyb). Unwaith eto mae’r awyrgylch yn un groesawgar i bawb, does dim strwythur ac mae’r sesiwn yn agored. Mae cyfle i bobl chwarae ac ymarfer, trio offerynnau newydd neu ymuno gyda’r canu yn Gymraeg gyda’r grŵp. Gwelwch wefan neu dudalen Facebook y Fenter ar gyfer manylion y gweithdai sydd ar y gweill.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Mae’r Fenter yn cynnig nifer o weithgareddau cerddorol o fewn yr ysgolion lleol. Ceir gwersi Ukelele gyda chyfle i ddisgyblion ysgrifennu caneuon Cymraeg eu hunain. Mae’r sesiwn yma yn symud o amgylch yr ysgolion lleol ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion o bob ysgol cael tro.
Ceir gweithdai didjeridŵ, gitâr a drymio Affricanaidd hefyd sy’n rhoi cyfle i’r plant drio’r offerynnau, a dysgu am draddodiadau a diwylliannau gwahanol megis yr Aborigines a’r Maoris. Mae’r offerynnau trawiad a’r cylch drymio yn dysgu llawer o wersi i’r disgyblion ac mae’r plant yn dysgu amynedd wrth wrando ar y tiwtor, rhythmau newydd a rhythmau eu cyd ddisgyblion hefyd.
Mae’r Fenter yn cydnabod pwysigrwydd plant yn derbyn cyfleoedd cerddorol pan eu bod nhw’n ifanc syn rhoi’r cyfle hefyd iddyn nhw gael defnyddio’u hegni ac yn gofyn iddyn nhw ganolbwyntio ar dasg, hefyd.
Wrth weithio ar y cyd gydag Ysgol Gyfun Gwynllyw, mae’r Fenter yn cynnig dwy awr yr wythnos o amser jamio i’w disgyblion. Mae modd i’r disgyblion dod i’r adran cerddoriaeth yn ystod amser cinio Dydd Mercher a Dydd Mawrth i gymryd rhan, trio offerynnau newydd a jamio gyda’i ffrindiau. Y gobaith yw sefydlu cystadleuaeth “Battle of the Bands” erbyn diwedd y flwyddyn gyda chymysgedd o staff, athrawon a disgyblion yn cymryd rhan.
Menter Iaith Blaenau Gwent Torfaen a Mynwy. Rhif Sefydliad Elusennol Corfforedig 1181104
© Hawlfraint 2023 - Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy - Gwefan gyda Delwedd