GALW YMDDIRIEDOLWYR NEWYDD SY’N FRWD DROS Y GYMRAEG
Yn ardal Menter Iaith Blaenau Gwent Torfaen a Mynwy
www.menterbgtm.cymru
(Nid does rhaid i chi fod yn siaradwyr rhugl ond disgwylir i chi fynd ati i ddysgu’r Iaith. Bydd y Fenter yn talu am wersi’r flwyddyn gyntaf i chi os ydych yn llwyddiannus yn eich cais.)
Mae Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn edrych am Ymddiredolwyr newydd. Mae’r rôl gwirfoddol yma yn cynrychioli cyfnod newydd a chyffrous i’r Fenter ac mae angen unioglion brwd dros y Gymraeg i ymuno â’i Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Mae’r rôl yn wirfoddol ond telir costau traul yn unol â dogfen llywodraethu’r Fenter
Manyleb Person
Er mwyn ceisio am y rolau hyn bydd disgwyl eich bod yn gymwys i fod yn ymddiredolwr elusen.
1. Gweithredu er lles gorau eich elusen – rhaid i chi beidio â gadael i'ch buddiannau personol, eich safbwyntiau na'ch rhagfarnau effeithio ar eich ymddygiad fel Ymddiriedolwr
2. Rheoli adnoddau eich elusen yn gyfrifol
3. Gweithredu gyda gofal a sgil rhesymol
4. Sicrhau bod eich elusen yn atebol
5. Gweithredu'n rhesymol ac yn gyfrifol ym mhob mater sy'n ymwneud â'ch elusen – gweithredu gyda chymaint o ofal â phe baech yn delio â'ch materion eich hun, gan gymryd cyngor os oes ei angen arnoch
6. Dim ond defnyddio incwm ac eiddo eich elusen at y dibenion a nodir yn ei ddogfen lywodraethol
Mae'r Comisiwn Elusennau wedi gosod pwyslais penodol ar ei ganllawiau craidd cynhwysfawr Cael hyd i Ymddiriedolwyr Newydd - Yr hyn y mae angen i elusennau wybod (CC30), sy’n datgan y canlynol:
"Mae ymddiriedolwyr yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o reoli elusennau. Mae ganddynt lawer i'w gyfrannu hefyd i'w llwyddiant. Er enghraifft, gallant:
• fod yn gyfrwng cyfathrebu â chymunedau y mae elusen yn bodoli i'w gwasanaethu;
• dod â phrofiad proffesiynol neu brofiad arall gwerthfawr i elusennau;
• helpu i sicrhau bod elusennau'n cael eu rheoli'n dda trwy benodi uwch staff gweithredol.
Mae'r Comisiwn yn cydnabod bod y rhan fwyaf o ymddiriedolwyr yn wirfoddolwyr sy'n gwneud camgymeriadau gonest weithiau. Ni ddisgwylir i ymddiriedolwyr fod yn berffaith - disgwylir iddynt wneud eu gorau i gydymffurfio â'u dyletswyddau: mae'n rhaid i chi ddefnyddio gofal a defnyddio eich sgiliau a'ch profiad a cheisio cyngor priodol pan fydd angen a dylech chi neilltuo digon o amser, meddwl ac ynni ar gyfer eich rôl, er enghraifft trwy baratoi ar gyfer, mynychu a chymryd rhan weithredol ym mhob cyfarfod yr ymddiriedolwyr
Darperir mwy o wybodaeth am ofynion y rolau hyn i’r rheini sy’n mynegu diddordeb.
Yn yr adran hon:
Menter Iaith Blaenau Gwent Torfaen a Mynwy. Rhif Sefydliad Elusennol Corfforedig 1181104
© Hawlfraint 2023 - Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy - Gwefan gyda Delwedd