Croeso i wefan newydd Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod prysur i’r Fenter gyda newidiadau helaeth i’n statws a’n gweithdrefnau. Mae’r Fenter nawr yn elusen gofrestredig ac wedi mabwysiadu cyfundrefn llywodraethu newydd. Mae hyn yn rhan o weithio tuag at safonau PQASSO er mwyn sicrhau bod y Fenter yn barod i wynebu’r heriau o weithio mewn modd modern a thryloyw. Mae’r Fenter hefyd wedi symud swyddfeydd o Ganolfan Iago Sant ym Mhontypŵl i Ystâd Busnes Parc Mamhilad. Mae cyfleusterau gwych yma ac mae potensial enfawr i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg gan fusnesau lleol.
Mae tîm y Fenter yn y broses o drefnu digwyddiadau cyffrous ar gyfer 2020 felly cofiwch i ymweld â’r wefan a’n calendr er mwyn darganfod beth sy’n digwydd.
10/8/2020 - Diweddariad Covid-19: Rydym yn ymwybodol ein bod ni gyd yn araf bach yn symud tuag at normalrwydd. Ar hyn o bryd rydym yn parhau i gynnig ystod eang o weithgareddau ar-lein am ddim ac hefyd ambell weithgaredd awyr-agored ar gyfer plant, teuluoedd ac oedolion er mwyn iddynt ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg. Os hoffech ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau, ebostiwch post@menterbgtm.cymru
Mae'r Fenter nawr yn cynnal nifer o weithgareddau/grwpiau ar-lein. Mae'r posteri o dan y neges hon yn cynnwys mwy o wybodaeth am y pethau gwahanol rydym yn ei gynnig.
Ydych chi'n rhiant sydd yn chwilio am gymorth gyda'r iaith Gymraeg?
Ymunwch â'n Grŵp Cymorth Rhieni er mwyn derbyn cymorth ieithyddol a hefyd derbyn mynediad at weithgareddau addysgiadol Cymraeg ar gyfer blant o bob oedran am ddim. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech chi ymuno, cysylltwch â ni ar Facebook neu anfonwch neges e-bost, post@menterbgtm.cymru
Dyma rhai o'r grwpiau rydym yn cynnig dros Skype. I ymuno a grŵp, e-bostiwch post@menterbgtm.cymru
Mae yna rhai gweithgareddau yn digwydd dros ein tudalen Facebook: https://www.facebook.com/menterbgtm/
Os rydych yn edrych i siarad bach o Gymraeg dros y ffôn, bydd un o swyddogion y Fenter ar gael i sgwrsio. Cysylltwch gyda ni os oes diddordeb gyda chi!
Menter Iaith Blaenau Gwent Torfaen a Mynwy. Rhif Sefydliad Elusennol Corfforedig 1181104
© Hawlfraint 2023 - Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy - Gwefan gyda Delwedd