Bod yn ymddiriedolwyr
Cartref > Amdanom > Bod yn ymddiriedolwyr
Mae disgwyl bellach i’r Mentrau Iaith gyflawni PQASSO er mwyn cydymffurfio ag anghenion sefyldiadau trydydd sector i gael polisiau llywodraethu a gweithdrefnau cadarn a chryf mewn lle. Mae’r Fenter newydd gael ei chymeradwyo i newid ei statws i fod yn Sefydliad Corfforedig Elusennol. Mae strwythur llywodraethu newydd wedi sefydlu tri ymddiriedolwr yn llywio’r Fenter ac yn cefnogi’r Prif Swyddog wrth wneud y penderfyniadau mawr. I gynorthwyo ac atgyfnerthu’r hyn mae’r Fenter yn ei wneud o ran gweithgareddau a digwyddiadau, fe fyddwn yn edrych am wirfoddolwyr i fod yn rhan o is-bwyllgor i gefnogi a chynghori’r Fenter mewn pob agwedd o’I gwaith.
Rydym yn awyddus iawn i ddenu trawsdoriad o gynrychiolwyr o’n cymunedau i fod yn rhan o’r prosiect newydd a chyffrous hwn. Gallwch ddarganfod mwy am sut mae dod yn rhan ar wefan CGGC.
English