Pwrpas
Cafodd Menter Iaith BGTM ei sefydlu yn 2007 sy’n ei gweud hi’n un o’r Mentrau mwyaf ifanc ymysg y 22 sydd ledled Cymru. Mae’r Fenter yn gweinyddu y tair sir – Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy.
Yn ymarferol sefydlwyd y Mentrau Iaith i drefnu pob math o ddigwyddiadau i bobl o bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol gael mwynhau a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys rhieni, teuluoedd, plant a phobl ifanc, oedolion a dysgwyr. Bydd y Mentrau yn cynnig digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol er mwyn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.
Arienir y Mentrau gan gyllid Llywodraeth Cymru.
Mae Menter BGTM yn gweithio yn y gymuned leol mewn llawer o ffyrdd I greu cyfleoedd I bobl ddefnyddio’r Gymraeg. Mae hwn yn cynnwys:
- Ysgolion cyfrwng Cymraeg
- Ysgolion cyfrwng Saesneg yr ardal - yn unol a Strategaeth 2050 y Llywodraeth
- Dysgwyr o bob oedran boed yn ddysgwyr cyfredol Cymraeg i Oedolionyn neu bobl sydd wedi gorffen eu cyrsiau ac eisiau byw a bod yn y Gymraeg
- Cymry Cymraeg sydd wedi ymgartefu yma neu sydd wedi eu magu yn y tair sir
Mae gweithio gyda’n partneriaid lleol hefyd yn bwysig i sicrhau parhad a datblygiad y Gymraeg yn lleol
- MIC
- Llywodraeth
- Cymraeg i Oedolion
- Cymraeg i Blant
- RHAG (Rhieni dros addysg Gymraeg)
- Coleg Gwent
- Dysgu Cymraeg Gwent
- Mudiad Meithrin
Marc Ansawdd Elusen Ddibynadwy - Cydnabyddiaeth ar ran gallu mudiadau gwirfoddol i reoli a llywodraethu yn effeithiol
Yn ddiweddar, derbyniwyd gan Fenter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy y Marc Ansawdd Elusen Ddibynadwy, marc sydd yn cydnabod eu gwaith rhagorol fel mudiad yn y trydydd sector yng Nghymru.
Mae’n bleser ac yn fraint i ni fel Menter Iaith BGTM dderbyn y wobr hon - Marc Elusen Ddibynadwy. Diolch o galon i'r holl staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr am eu gwaith caled. Dyma farc cenedlaethol sydd yn cydnabod ac yn arddangos bod Menter BGTM yn sefydliad o ansawdd ac yn ddibynadwy. Hyfryd oedd derbyn y newyddion arbennig yma, yn enwedig ar ôl blwyddyn heriol gyda Covid.
Dyma'r unig fath o asesiad ansawdd yn y DU sydd wedi'i gynllunio i helpu sefydliadau'r trydydd sector i weithredu'n fwy effeithiol ac effeithlon.
Cafodd Menter Iaith BGTM ei hasesu yn ôl 11 o’r safonau ymarferol a welir mewn Elusen Ddibynadwy. Mae'r safonau hyn yn cynnwys llywodraethu, arwain a rheoli, rheoli staff a gwirfoddolwyr a rheoli arian. Roedd y Fenter yn llwyddiannus gan basio’r holl safonau ansawdd.
Sefydlwyd Menter Iaith BGTM yn 2007 ac mae’n weithredol o fewn tair sir – Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy. Rydym yn trefnu pob math o ddigwyddiadau i bobl o bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol I gael mwynhau a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys rhieni, teuluoedd, plant a phobl ifanc, oedolion a siaradwyr newydd.
Dyma oedd gan Nick Snow, Rheolwr y Rhaglen Elusennau Dibynadwy, NCVO i'w ddweud:
“Rydyn ni mor hapus dros ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr Menter Iaith BGTM am gyflawni'r Marc Elusen Ddibynadwy. Mae'n glir bod sefydliadau sy'n defnyddio'r safon Elusen Gofrestredig yn elwa trwy lywodraethu’n well, datblygu systemau a gweithdrefnau mwy effeithiol ac amrediad gwell o wasanaethau i'w defnyddwyr ac mae'n wych gweld y gymuned yma o ddefnyddwyr Elusen Ddibynadwy yng Nghymru yn tyfu.”
English