Ysgolion

Cartref > Ysgolion

Mae’r Fenter yn gweithio’n agos gyda nifer o ysgolion lleol er mwyn creu cyfleoedd diddorol i ddisgyblion defnyddio’r iaith ac i gyfoethogi eu dealltwriaeth/profiad o ddiwylliant Cymraeg. Mae’r dolenni isod yn esbonio sut mae’r Fenter yn cefnogi defnydd yr iaith yn ysgolion ein hardal.

  • plant yn chwarae ar offer parc
  • plant yn paentio gyda lliwiau gwahanol
  • plant yn clwb ar ol ysgol

Ysgolion Cyfrwng Cymraeg

Parti Bryn Onnen / Ysgol Bryn Onnen After School Club Clwb Carco Y Fenni / Ysgol Bryn Onnen After School Club Clwb Carco Y Fenni / Ysgol y Fenni After School Club Mae’r Fenter wedi datblygu cysylltiadau agos gydag Ysgolion Cynradd Cymraeg ein hardal. Mae’r Fenter yn cynnal dau Glwb Carco (Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn Onnen ac Ysgol Gynradd Gymraeg y Fenni) er mwyn darparu cyfleoedd i blant chwarae trwy’r Gymraeg ar ôl i’r diwrnod ysgol dod i ben.

Mae’r Fenter hefyd yn ymdrechu i gefnogi gweithgareddau yn yr Ysgolion megis projectau celf, clybiau Ukelele a chlybiau Lego a Gemau fideo ac yn trefnu neu’n cyfrannu at foreau hwyl er mwyn i deuluoedd cael cyfle i gymdeithasu mewn awyrgylch Cymraeg.

Mae’r Fenter yn gweithio gyda’r ddwy Ysgol Uwchradd Gymraeg yn yr ardal sef Ysgol Gyfun Gymraeg Gwynllyw (Pontypŵl) ac Ysgol Gyfun Gymraeg Gwent Is-coed (Casnewydd) ac yn cynnal nifer o ddigwyddiadau yng Ngwynllyw gan gynnwys Clwb Flogio, gweithgareddau Fforwm Iaith a Clwb Brwydr y Bandiau. Cefnogodd y Fenter prosiect Sioe Gerdd Gwynllyw a arweiniodd at yr Ysgol yn llwyfannu’r sioe ‘Dal Sownd’ (addasiad o Hairspray) yn Theatr Congress, Cwmbran. Mae’r Fenter wedi cefnogi gwaith Menter Casnewydd gyda Fforwm Iaith Gwent Is-coed trwy gynnal sesiynau gemau fideo, cwisiau a gweithgareddau eraill.

Ysgolion Cyfrwng Saesneg

Datblygwyd cysylltiadau gydag Ysgolion Cyfrwng Saesneg ein hardal dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn cefnogi dyhead Llywodraeth Cymru i gynyddu’r nifer o ddisgyblion sy’n datblygu eu sgiliau Cymraeg. At hynny cefnogwyd prosiect Siarter Iaith Ysgol Overmonnow (Trefynwy) ac Eisteddfod Gylch Ysgolion Trefynwy. Cynhaliwyd gweithgareddau crefft a gwahoddwyd ysgolion Saesneg i ddigwyddiadau megis ein dathliad Nadolig ym Mhwll Mawr, Blaenafon.

Mae’r Fenter wedi datblygu cynlluniau i gynnal gweithgareddau gydag Ysgolion Uwchradd Cyfrwng Saesneg yr ardal a bydd rhain yn cael eu gweithredu dros y flwyddyn nesaf. Cefnogwyd eisioes digwyddiad Cymraeg Ysgol Brenin Harri’r VIIIfed yn y Fenni (gweithdy cerddorol gyda Mr Phormula a Danielle Lewis) a sesiynnau Ymwybyddiaeth Iaith yn Ysgol Cil-y-Coed a Choleg Gwent.

Gwybodaeth am addysg Gymraeg

Mae ardal Menter BGTM yn cynnwys tri Awdurdod Lleol ac mae pob un yn darparu addysg Cyfrwng Cymraeg.

 

Mae dewis Addysg Cyfrwng Cymraeg i’ch plant yn opsiwn gwych sy’n sicrhau bydd ganddyn nhw sgiliau ieithyddol sy’n gynyddol werthfawr yn economi Cymru. Byddant hefyd yn derbyn cyfle i fwynhau cyfoeth y diwylliant Cymraeg yn ei agweddau hen a modern. Mae yna nifer o fudiadau a gwefannau sy’n medru ateb cwestiynau rhieni.

 

Rhag (Rhieni dros Addysg Gymraeg)

Cymraeg Llywodraeth Cymru

Mae gwefan y llywodraeth yn cynnwys gwybodaeth ynglyn â phob agwedd o ddysgu a defnyddio’r Gymraeg gan gynnwys dudalen ar ddewis addysg Gymraeg i’ch plant.

Mae Mudiad Meithrin a Chymraeg i Blant (CiB) yn darparu addysg cyn ysgol i blant ar draws Cymru. Mae nifer o Feithrinfeydd yn yr ardal, clybiau Ti a Fi (grwpiau chwarae i fabanod) ac mae Cymraeg i Blant yn cynnal sesiynau Stori a Chan, Tylino babanod (baby massage) a Ioga babanod ar draws yr ardal.

 

Mudiad Meithrin

Cylchoedd Ti a Fi

Cymraeg i Blant

Facebook Mudiad Meithrin y De Ddwyrain

Cymraeg i Blant Mynwy

Cymraeg i Blant Torfaen

Cymraeg i Blant Blaenau Gwent